Eisteddfod yr Urdd yn ymweld â'r Bala yn 2014
- Published
Cyhoeddodd Urdd Gobaith Cymru mai caeau Rhiwlas ger Y Bala fydd cartref yr Eisteddfod pan fydd hi'n ymweld â Meirionnydd yn 2014.
Yn ystod y broses ymgynghori, gychwynnodd nôl yn nechrau 2012, cafodd drigolion Meirionnydd gais i gynnig lleoliadau posibl ac o ganlyniad fe ymwelwyd gyda naw safle ym mhob cwr o'r sir.
Wedi'r ymweliadau cychwynnol, lluniwyd rhestr fer o dri safle - yn Nhywyn, Harlech a'r Bala.
Holiwyd barn sefydliadau a deiliaid diddordeb allanol, ac o ganlyniad penderfynodd Pwyllgor Technegol Canolog yr Eisteddfod mai'r Bala oedd y lleoliad mwyaf addas.
'Cryfderau amlwg'
Yn ôl Aled Sion, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod:
"Er bod gan y tri safle ar y rhestr fer gryfderau a rhagoriaethau, roedd cryfderau amlwg yn Y Bala. Yn benodol, mae digon o dir da, addas ar y safle ac mae'n hygyrch o bob cyfeiriad.
"Mae'r safle hefyd wedi bod yn gartref i ddwy Eisteddfod Genedlaethol lwyddiannus, ddangosodd fod y systemau trafnidiaeth a pharcio yn gweithio yn dda iawn yn y lleoliad.
"Mae hefyd digon o dir gwastad yn y safle i leoli'r Maes, Maes Carafannau a'r Meysydd Parcio ac mae'n agos at y dref.
"Hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau lleol a'r asiantaethau allanol am eu mewnbwn i'r broses ymgynghori ac edrychwn ymlaen at Eisteddfod lwyddiannus ym Meirionydd yn 2014."
Ychwanegodd Hedd Pugh, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith:
"Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr fod cynifer o ardaloedd gwahanol ym Meirionnydd yn awyddus i groesawu'r Eisteddfod i'w bro ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda phobl o bob rhan o'r sir er mwyn sicrhau Eisteddfod fythgofiadwy ym Meirionnydd."
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Tachwedd 2012
- Published
- 19 Tachwedd 2012
- Published
- 4 Gorffennaf 2011
- Published
- 5 Mehefin 2012
- Published
- 28 Mehefin 2012