Marwolaeth: Cyhuddo dyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ddamwain farwol yn ardal Merthyr Tudful wedi cyhuddo dyn 36 oed o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ar ôl bod yn yfed.
Fe fydd y dyn o Ferthyr yn ymddangos gerbron ynadon y dref ddydd Gwener.
Mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth am y ddamwain a ddigwyddodd rhwng Pontsticill a Phant dydd Sadwrn.
Dylid cysylltu â'r heddlu ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555 111.