Cwest: Marwolaeth anghyfreithlon
- Published
Cofnodwyd rheithfarn o farwolaeth anghyfreithlon ar ddynes 96 oed a fu farw ar ôl syrthio lawr siafft lifft mewn cartref gofal yng Nghaerdydd.
Clywodd y cwest fod May Lewis wedi syrthio 20 troedfedd.
Roedd gofalwr wedi gwthio ei chadair i safle'r lifft ar yr ail lawr ond doedd y platfform ddim yn ei le.
Clywodd y cwest fod esgyrn Mrs Lewis wedi torri mewn 52 o leoedd.
Fe wnaeth yr ofalwraig wnaeth wthio'r gadir i'r lifft hefyd syrthio.
Nawr fe all perchnogion cartre' gofal Tŷ Pontcanna yn Llandaf, Dr Sherwan Al-Mufti a'i wraig, wynebu achos llys.
Clywodd y cwest fod nam ar ddrws y lifft, ac felly bod staff yn aml yn defnyddio goriad brys i'w agor.
Craffu
Cafwyd tystiolaeth fod defnyddio goriad yn y fath fodd yn beryglus.
Dywedodd Dr Nasik Al-Mufti, oedd yn gyfrifol am iechyd a diogelwch yn y cartref, ei bod yn gwybod fod nam ar y lift ond ei bod ond wedi craffu ar y llawlyfr diogelwch unwaith mewn pedair blynedd.
"Does yr un ohonom yn defnyddio llawlyfr i fynd i Marks & Spencer a defnyddio'r lifft, rydych yn gwybod sut i wneud.
"Edrychais ar y llawlyfr unwaith - edrychiad cyflym - rhyw dair blynedd cyn y farwolaeth."
Clywodd y cwest fod y llawlyfr yn cynnwys rhybudd: "Peidiwch â defnyddio platfform y lift pe bai nam arno neu ei fod ddim yn gweithio'n iawn."
Dywedodd Dr Al-Mufti: "Pe bawn wedi mynd yn fanwl trwy'r llawlyfr, byddwn wedi ei weld (y rhybudd).
"Ond nid yw'n gyfrifoldeb i mi i ddelio na gwneud unrhyw beth â'r lifft.
"Rwy'n gadael hynny i bobl broffesiynol sy'n gofalu am y lift.
"Ni welais sticer melyn ar y goriad brys oedd yn dweud: "Mae'r goriad hwn yn beryglus."
"Fy nghonsyrn i oedd gwneud yn siŵr fod y goriad ar gael i aelodau'r staff."
Dywedodd Dr Al-Mufti nad oedd hi wedi cynnal asesiad risg o'r lifft, na chwaith wedi derbyn hyfforddiant ynglŷn â defnyddio'r lift.
Yn ystod y gwrandawiad cafwyd tystiolaeth gan Sven Hillman, arbenigwr o gwmni lifftiau Cibes o Sweden.
Roedd y cwmni wedi archwilio'r lifft wedi'r ddamwain.
Clo newydd
Yr unig nam, meddai, oedd problem offer cloi ar y lefel uchaf.
"Wrth i'r platfform gyrraedd y llawr doedd peirianwaith datgloi'r allwedd ddim yn gweithio," meddai.
Dywedodd fod angen clo newydd ac na ddylai'r lifft fod wedi cael ei ddefnyddio tan fod hynny wedi digwydd.
Gofynnodd y crwner a fyddai defnyddio'r goriad brys bob dydd er mwyn cyrraedd yr ail lawr yn beryglus.
"Yn sicr," oedd yr ateb.
"Rhaid i chi fod yn ymwybodol o'r peryglon wrth ddefnyddio'r agoriad yna.
"Pobl sydd wedi eu hyfforddi ddylai ddefnyddio'r agoriad," meddai Mr Hillman.