BBC Cymru Fyw

Dangos crefft y cwiltiwr yn Llangollen

Published
image captionMae arddangosfa flynyddol Quiltfest, sydd yn arddangos gwaith cwiltwyr, yn cael ei chynnal yn Llangollen ar hyn o bryd.
image captionMae'r arddangosfa'n dangos sgiliau cwiltwyr ac yn ogystal mae gweithdai a chyfleoedd i gwrdd â'r crefftwyr.
image captionFel rhan o'r digwyddiad mae grŵp Cwilt Cymru yn arddangos cwiltiau sydd wedi eu hysbrydoli gan themâu Celtaidd.
image captionMae sawl eitem wedi ei ysbrydoli gan chwedlau a chredoau.
image captionMae artist gwadd yr arddangosfa, Reiko Domon, yn cael ei hysbrydoliaeth o Japan.
image captionMae'r cwiltiau i'w gweld ym Mhafiliwn Llangollen ac yn amgueddfa'r dref.
image captionMae sawl darn lliwgar iawn i'w gweld yn yr arddangosfa.
image captionBydd yr arddangosfa'n gorffen ar Chwefror 15 ym Mhafiliwn Llangollen tra bydd arddangosfa Cwilt Cymru yn Amgueddfa Llangollen yn cau ar Chwefror 19. Bydd arddangosfa Reiko Domon yn yr amgueddfa o Chwefror 20 ymlaen.

Dolenni perthnasol ar y we

  • Quiltfest (Saesneg)

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol