BBC Cymru Fyw

Leeds 0-1 Caerdydd

Published
image copyrightGetty Images

Leeds 0-1 Caerdydd

Mae Caerdydd â mantais o ddeg pwynt ar frig tabl y Bencampwriaeth ar ôl eu pumed fuddugoliaeth yn olynol oddi cartref.

Roedd yn gêm gyntaf fythgofiadwy i Frazier Campbell wrth iddo sgorio gyda'i gyffyrddiad cyntaf ar ôl dod ymlaen fel eilydd.

Fe wnaeth Campbell, sydd newydd ymuno â Chaerdydd o Sunderland, ddargyfeirio ergyd Craig Bellamy i'r rhwyd.

Fe wnaeth David Marshall ddau arbediad gwych i atal Ross Barkley a Tom Lees.

Fe ddaliodd Caerdydd eu gafael ar y fantais tan y chwib olaf gan wrthsefyll ymdrechion taer Leeds.

Straeon perthnasol

  • Caerdydd yn cael buddugoliaeth yn erbyn Crystal Palace