BBC Cymru Fyw

Uwchgynghrair yn rhannu'n ddwy

Published
image copyrightNot Specified

Mae'n adeg ansefydlog i rai o glybiau pêl-droed Uwchgynghrair Cymru.

Roedd disgwyl i'r ras i gyrraedd y chweched safle hollbwysig cyn i'r Gynghrair gael ei thorri'n ddwy ddod i ben ddydd Sadwrn.

Ond er iddyn nhw ennill o 6-3 yn y Bala, mi allai Gap Cei Connah golli pwynt ar ôl torri rheolau trwy gynnwys chwaraewr oedd eisoes wedi chwarae dros ddau dîm arall yn ystod y tymor.

Mae saith niwrnod gwaith gan y tîm i apelio yn erbyn penderfyniad.

O gael eu cosbi mi fyddai Caerfyrddin felly yn y chweched safle hwnnw, gyda Chei Connah yn disgyn i'r wythfed safle.

Canlyniadau'r penwythnos:

Airbus UK Brychdyn 3 - 1 Lido Afan

Bala 3-6 Gap Cei Connah

Bangor 2-2 Port Talbot

Caerfyrddin 4 - 2 Y Drenewydd

Seintiau Newydd 3-0 Aberystwyth