Lladrad arfog mewn siop
- Published
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ar ôl i ladron arfog ddwyn cannoedd o bunnau o siop sy'n gwerthu gwin yn Abertawe.
Aeth dau ddyn i mewn i siop Dylan's yn Sgeti tua chanol dydd, ddydd Sadwrn gan fygwth perchennog y siop gyda gwn, cyn dianc mewn fan.
Ni chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu'r De ar 101 neu Daclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol