Teyrnged i 'ferch gariadus'
- Published
image copyrightArall
Mae teulu menyw 41 oed o Rydaman, fu farw pan darodd ei char fws ar yr A483, wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Bethan Davies a chafodd 15 eu hanafu wrth gyffordd Llanedi ger Pont Abraham ddydd Mawrth.
Dywedodd y teulu ei bod hi'n "ferch gariadus, chwaer hoffus a ffrind a chydweithiwr heb ei ail."
Roedd y bws yn cario myfyrwyr Coleg Sir Gâr o gampws Rhydaman i Lanelli.
Dywedodd y teulu: "Roedd hi'n annwyl iawn a phawb yn y gymuned yn dwlu arni.
"Does dim modd cyfleu ein colled ni ... rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y negeseuon cefnogaeth oddi wrth y teulu, ffrindiau a'r gymuned."
Bydd yr angladd yn Amlosgfa Llanelli am 10am ddydd Iau.
Mae'r heddlu'n dal i ymchwilio wedi i'r bws â 52 o seddau adael y ffordd a dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Ionawr 2013
- Published
- 29 Ionawr 2013