Dal dyn ddihangodd o garchar agored
- Published
image copyrightAvon and somerset police
Mae'r heddlu wedi dal dyn 26 oed ddihangodd o garchar agored yng Nghymru ar Ionawr 14.
Cafodd Brian Grady, (ei enw arall yw Brian Revill), 26 oed, ei garcharu am lofruddio a lladrata.
Cafodd y dyn o Fryste isafswm o 11 mlynedd o garchar yn 2003 am lofruddio Liam Attwell.
Roedd Mr Attwell wedi ei drywanu pan heriodd griw o bobl ifanc oedd yn ceisio dwyn ffôn symudol.
Daeth yr heddlu o hyd iddo yn ardal Bryste.
Pan oedd Grady ar ffo cafodd menyw 34 oed o Fryste ei chyhuddo o helpu llofrudd ddianc o garchar agored Prescoed yn Sir Fynwy.
Yr wythnos ddiwetha' plediodd yn euog i'r cyhuddiad a bydd yn cael ei dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar Chwefror 15.
Straeon perthnasol
- Published
- 16 Ionawr 2013