Rhybudd am gyffuriau wedi i ddyn 19 oed farw
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu a bwrdd iechyd wedi rhybuddio'r gymuned wedi i ddyn 19 oed farw ar ôl cymryd cyffuriau.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Williams o Gaernarfon: "Ryw bythefnos yn ôl bu'n rhaid i ddyn 19 oed o Fangor fynd i'r uned gofal dwys yn Ysbyty Gwynedd wedi iddo gymryd cyffuriau.
"Mi oedd yn sâl iawn ond mi wellodd.
"Dros y penwythnos aeth dyn 19 oed o Langefni i'r ysbyty wedi iddo gymryd cyffuriau yng Nghaergybi.
"Bu farw brynhawn Sadwrn."
Dywedodd nad oedd y marwolaethau'n amheus ond yn ddiesboniad ac y byddai ymchwiliad er mwyn penderfynu achos marwolaeth.
Ffurf ar ecstasi
Roedd ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu, meddai, fod y ddau wedi cymryd ffurf ar ecstasi o'r enw "Green Apples".
"Bydd adroddiad llawn yn cael ei anfon at Grwner Gogledd-Orllewin Cymru.
"Dylai'r rhai sy'n cyflenwi neu ddefnyddio'r cyffur roi'r gorau i hyn ar unwaith."
Dywedodd ei fod yn estyn cydymdeimlad i deulu'r dyn fu farw.
"Dyw ein gwybodaeth ni ddim yn awgrymu bod 'cyffuriau amrwd' ar gael ar y strydoedd," meddai.
"Ond mi ddylai defnyddwyr fod yn ofalus."
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oeddan nhw'n cysylltu'r marwolaethau gyda marwolaethau dau o ddynion ifanc eraill yn Wigan ar hyn o bryd, nes bod profion tocsicoleg wedi cael eu cwblhau.
Straeon perthnasol
- 27 Tachwedd 2012
- 29 Hydref 2012
- 23 Hydref 2012