Iechyd: Cyngor i alw cyfarfod brys
- Published
Mae cynghorwyr Sir Ddinbych wedi bod yn cwrdd ddydd Mawrth i drafod cynlluniau dadleuol i ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru.
Roedd disgwyl iddynt drafod cynnig o ddiffyg hyder ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Yn ôl y Cynghorydd Stuart Davies, oedd yn bwriadu gwneud y cynnig, roedd ganddo gefnogaeth drawsbleidiol.
Ond yn ystod y cyfarfod, penderfynwyd galw am gyfarfod brys gyda'r bwrdd iechyd i drafod yr ad-drefnu.
Petai'r cyngor yn anhapus â'r hyn fyddai'n cael ei ddweud yn y cyfarfod hwnnw, maent yn dweud y bydden nhw'n cynnal pleidlais o ddiffyg hyder wedyn.
Bydd y cyngor yn cwrdd eto ar Chwefror 26 i drafod y mater.
Mae nifer o'r cynghorwyr yn pryderu am y costau allai'r newidiadau achosi i'r sir os nad oes cyllid digonol ar gael.
Maent hefyd yn anhapus y gallai rhai adnoddau gael eu cau lawr cyn bod rhai newydd yn barod yn eu lle.
Cefnogaeth
Dywedodd y cynghorydd Davies hefyd fod yna gwestiynau i'w gofyn ynglŷn â chostau a chyfleusterau teithio, a'r arian fydd ar gael ar gyfer cyfleusterau newydd.
"Mae'r pwyntiau yma'n cael eu hanwybyddu gan y bwrdd iechyd, felly rwy'n mynd i gynnig pleidlais o ddiffyg hyder ynddynt. Mae gennyf gefnogaeth ar draws y pleidiau."
Fis diwetha' cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddan nhw'n cau pedwar ysbyty cymunedol - yn Llangollen, Prestatyn, Y Fflint a Blaenau Ffestiniog.
Maent hefyd yn bwriadu trosglwyddo gofal dwys i fabanod dros y ffin i Loegr.
Mae nifer o wleidyddion, cyrff proffesiynol ac aelodau o'r cyhoedd wedi beirniadu'r newidiadau.
Yn ôl y bwrdd, does dim dewis ond ad-drefnu gan fod angen gwneud gwerth degau o filoedd o bunnoedd o arbedion i sicrhau cynaladwyedd y gwasanaethau.
Ddydd Gwener cynhaliwyd cyfarfod preifat rhwng prif weithredwyr cynghorau'r gogledd a swyddogion Betsi Cadwaladr.
Mae disgwyl i'r prif weithredwyr adrodd yn ôl i'r cynghorau'r wythnos hon.
Pwysau
Cyn y cyfarfod ddydd Mawrth, dywedodd y Cynghorydd Rhys Hughes, sy'n cynrychioli Llangollen, ei fod yn pryderu'n fawr am benderfyniad y bwrdd iechyd i gau Ysbyty Llangollen.
"Mae'n ysbyty first class a dwi'n methu credu eu bod nhw'n meddwl ei chau hi.
"Mae pobl leol yn cael eu trin yno - mae fel rhyw stepping stone rhwng Ysbyty Maelor Wrecsam ac anfon pobl adre' - ac mae'n hawdd i bobl o'r gymuned alw mewn i weld y cleifion.
Ychwanegodd: "Dwi'n poeni am y costau hefyd. Maen nhw'n sôn am symud y cleifion allan i'r gymdeithas, ond pwy sy'n mynd i dalu am hyn?
"Mae'r cyfarfod ddydd Mawrth yn mynd i roi 'chydig o bwysau ar Betsi Cadwaladr gobeithio. Fe ddylai'r penderfyniad fynd lawr i Gaerdydd.
Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd gan y cyngor, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
"Mae'r materion a godwyd gan gyngor sir Ddinbych yn debyg i'r rhai a godwyd gan gynghorau eraill.
"Byddai'n amhriodol gwneud sylw ar bryderon y cyngor cyn i'r cyfarfod gael ei gynnal."
Straeon perthnasol
- Published
- 4 Chwefror 2013
- Published
- 3 Chwefror 2013
- Published
- 28 Ionawr 2013
- Published
- 18 Ionawr 2013
- Published
- 22 Ionawr 2013