Cyfle i aelodau EOS fynegi barn

  • Cyhoeddwyd
Logo EosFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Mae 'na dros fis ers i EOS a'r BBC geisio dod i gytundeb ynglŷn â thaliadau i artistiaid

Bydd yr asiantaeth hawliau cerddorol EOS yn cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol i drafod y ffrae gyda'r BBC ynglŷn â thaliadau i gerddorion, awduron a chyhoeddwyr.

Bydd dau gyfarfod o'r fath yn cael eu cynnal - y cynta' yng Nghaerdydd nos Fawrth, a'r ail yng Nghaernarfon nos Wener.

Er na fydd yna unrhyw bleidlais yn cael ei chynnal, dywed EOS fod y cyfarfodydd yn rhoi cyfle i'w haelodau fynegi barn am y sefyllfa.

Er enghraifft, bydd cyfle i drafod a ddylid defnyddio corff cymodi swyddogol.

Mae 'na dros fis ers i'r ddau gorff geisio dod i gytundeb.

Mae rhai aelodau o EOS eisoes wedi dweud na fyddan nhw o blaid proses gymodi.

Dywedodd y cerddor Bryn Fôn ynghynt: "Bydd rhaid i ni gael cytundeb ... ond mae cymodi annibynnol yn rhyw fath o ymarfer. Ticio bocsys ydi o."

Dim cytundeb

Mae Eos, sy'n cynrychioli tua 300 o gerddorion Cymraeg, am i'r BBC wella'r cynnig ynglŷn â thaliadau i gerddorion, awduron a chyhoeddwyr.

Ers Ionawr 1 eleni dyw Radio Cymru ddim wedi gallu chwarae dros 30,000 o ganeuon Cymraeg.

Bu'n rhaid iddyn nhw hefyd gwtogi oriau darlledu'r orsaf.

Mae caneuon Saesneg a cherddoriaeth glasurol ac offerynnol yn cael eu chwarae ar Radio Cymru ar hyn o bryd.

Llwyddodd EOS i ddod i gytundeb serch hynny gyda S4C cyn y Nadolig.

Bydd cyfarfodydd cyffredinol EOS yn cael eu cynnal rhwng 6:00pm ac 8:00pm yng nghanolfan y Chapter yng Nghaerdydd nos Fawrth, ac yn Galeri Caernarfon nos Wener.