Gwleidyddion yn trafod asbestos mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Uwchradd Cwmcarn
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Ysgol Uwchradd Cwmcarn ei chau fis Hydref y llynedd ond mae adroddiad newydd yn awgrymu fod llai o berygl nag a dybiwyd yn wreiddiol

Bydd grŵp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad yn cwrdd yn ddiweddarach i drafod y nifer yr ysgolion sydd ag asbestos yng Nghymru.

Dyma'r tro cynta' i'r pwyllgor gwrdd ers 2010.

Mae'r pwnc wedi dod yn fwyfwy amlwg yng Nghymru, yn enwedig ers i Ysgol Uwchradd Cwmcarn yng Nghaerffili orfod cau'r llynedd oherwydd pryderon am asbestos.

Bu'n rhaid i'r ysgol, sydd â 900 o ddisgyblion, gau ei drysau fis Hydref. Ond ddydd Llun, cyhoeddwyd adroddiad newydd yn awgrymu fod llai o berygl yno nag a dybiwyd yn wreiddiol.

Wedi i gais rhyddid gwybodaeth a gyflwynwyd gan Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas, gael ei wrthod gan Gyngor Sir Powys, a dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams AC, fod y cyngor yn ymddwyn "fel petai ganddynt rywbeth i'w guddio."

Y Ceidwadwr Nick Ramsay AC sy'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol. Mae'r grŵp yn cefnogi ymgyrch Hawl i Wybod: Asbestos mewn Ysgolion, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sefydlu bas data asbestos o ysgolion Cymru.

Mae'r ymgyrch hefyd wedi cael cefnogaeth nifer o elusennau canser, undebau a chyfreithwyr.

Cofrestr ar-lein

O dan y cynlluniau, byddai rhieni'n gallu edrych ar gofrestr ar-lein i weld a oes yna asbestos yn eu hysgol nhw, ac a oes yna gynllun gweithredol ar gyfer ysgolion ble mae asbestos wedi'i ddarganfod.

Cyn y cyfarfod, dywedodd Mr Ramsay: "Mae'n anodd credu yn yr hinsawdd ohoni fod asbestos yn dal i beryglu iechyd ein disgyblion a'n hathrawon."

Meddai Aled Roberts AC, o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Byddai creu cofrestr ar-lein yn helpu rhieni ac athrawon i weld yn hawdd a oes yna asbestos mewn adeiladau ac a yw'n cael ei reoli'n gyfrifol.

"Mae'r perygl i blant ac athrawon yn fater difrifol iawn a byddwn yn annog awdurdodau lleol i rannu gwybodaeth am asbestos mewn ysgolion."

'Canser angheuol'

Bydd yr Aelodau Cynulliad dros Blaid Cymru, Simon Thomas, hefyd yn rhan o'r grŵp, ac meddai:

"Dylai pob ysgol yng Nghymru fod wedi cael arolwg asbestos addas a dylai bod yna gofrestr asbestos.

"Rwy'n hyderus y byddai modd asesu'r perygl sydd ynghlwm ag asbestos petai'r cyhoedd yn fwy ymwybodol."

Yn ôl Mick Antoniw AC, o'r blaid Lafur yng Nghymru:

"Fel mae'n sefyll, mae'r rhai hynny sy'n gweithio neu'n mynychu ysgolion mewn perygl o ddatblygu canser angheuol yn y dyfodol os bydd rhywbeth yn ymyrryd â'r asbestos.

Dywedodd yr arbenigwr ar asbestos a'r cyfreithiwr Cenric Clement-Evans:

"Fe ddylai'r cyfarfod hwn fod yn gatalydd ar gyfer newid wrth ddelio ag asbestos yn ysgolion Cymru.

"Mae'r ffaith fod cyngor Powys wedi gwrthod datgelu gwybodaeth am asbestos yn ysgolion y sir yn dangos bod angen mwy o dryloywder.

"Mae'n amser cael cofrestr ganolog i Gymru fel ein bod yn gallu deall yn iawn pa mor gyffredin yw'r risg."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol