Ysgol Farchogaeth ddim yn cau
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Caerdydd wedi ceisio tawelu ofnau trigolion ynglŷn â dyfodol ysgol farchogaeth yn y ddinas.
Roedd staff yr ysgol farchogaeth wedi clywed fis diwethaf y byddai'r ysgol yn cau erbyn mis Ebrill fel rhan o doriadau cyngor y ddinas er mwyn arbed arian.
Mae'r ysgol yn arbenigo mewn dysgu plant ac oedolion sydd ag anableddau.
Ond mewn datganiad fore Mawrth, mae'r Cyngor wedi ceisio rhoi mwy o eglurdeb i'w safbwynt, ac yn dweud bellach na fydd yr ysgol yn cau.
Dim datblygu
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:
"Hoffwn egluro'r sefyllfa mewn perthynas ag Ysgol Farchogaeth Caerdydd gan ein bod yn ymwybodol bod pryderon o fewn y gymuned.
"Nid oedd bwriad erioed i gau'r ysgol, ac fe fydd yn parhau yn agored tan i'r Cyngor sicrhau cwmni allanol arall i weithredu'r adnodd.
"Mae'r gwaith eisoes ar y gweill i fynd â'r cynlluniau yma'n eu blaenau.
"Hoffwn ei gwneud hi'n glir hefyd nad oes cynlluniau i werthu'r tir sy'n gysylltiedig â'r ysgol ar gyfer datblygu yn y dyfodol, ac y bydd Ysgol Farchogaeth Caerdydd yn aros yn ei chartref presennol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2013