Adroddiad iechyd: Goblygiadau i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Stafford
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yr ymchwiliad cyhoeddus ar gost o £13m

Mae adroddiad terfynol ymchwiliad cyhoeddus i "fethiannau ofnadwy" yn Ysbyty Stafford yng nghanolbarth Lloegr yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher.

Cost yr ymchwiliad i'r digwyddiadau oedd £13m a'r nod oedd penderfynu pam na sylwodd rheoleiddwyr a chyrff allanol ar broblemau yn yr ysbyty.

Mae rhai sylwebwyr wedi awgrymu y byddai'r ymchwiliad yn argymell diwygiadau pellgyrhaeddol yn y Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd Robert Francis QC, cadeirydd yr ymchwiliad, y byddai'n cyflwyno'r adroddiad i'r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt, ar Chwefror 5.

Mae disgwyl i Mr Hunt wneud datganiad i Aelodau Seneddol ddydd Mercher.

'Dychrynllyd'

Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu wedi i adroddiad Comisiwn Gofal Iechyd yn 2009 gasglu bod "safonau gofal yn ddychrynllyd".

Dywedodd Nick Triggle, Gohebydd Iechyd y BBC, fod lle i gredu bod torri costau ac anelu at dargedau yn golygu nad oedd digon o staff mewn wardiau a bod cleifion mewn perygl.

Hwn yw'r pumed prif ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd yn yr ysbyty, meddai.

Y gred yw bod rhwng 400 a 1,200 yn fwy o bobl na'r disgwyl wedi marw yn yr ysbyty yn sgil eu triniaeth rhwng 2005 a 2008.

Roedd y casgliadau i fod i gael eu cyhoeddi yn Hydref 2012 ond dywedodd Robert Francis fod angen mwy o amser er mwyn pwyso a mesur "swm sylweddol o dystiolaeth."

Parhaodd yr ymchwiliad am 139 o ddiwrnodau a chyflwynwyd miliwn o dudalennau o dystiolaeth.

Cymru

Roedd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr Athro Merfyn Jones, yn ystyried goblygiadau'r adroddiad ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf fore Mercher.

Dywedodd: "Rhaid aros i weld yr adroddiad ond yn sicr fe fydd yn berthnasol.

"Er mai am ysbyty yn Stafford y mae'r adroddiad yn edrych, ac ar Loegr, mae'n codi cwestiwn am natur y gofal sydd i'w dderbyn yn ein hysbytai.

"Mae pawb am weld safon uchel mewn gofal a pharch at y claf.

"Mae iechyd wedi ei ddatganoli yng Nghymru ers rai blynyddoedd bellach, ac mae strwythur gwahanol yma, ond mae angen edrych yn fanwl ar yr adroddiad.

"Mae gennym Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, archwilio allanol a ffyrdd eraill o sicrhau safonau.

"Ond does neb am eistedd yn ôl yn fodlon - mae angen gofalu.

"Mae pawb o staff y gwasanaeth - nyrsys, meddygon a phawb - am weld safonau uchel.

"Os oes gwendidau, rhaid gofalu nad yw'r gofal yn diodde' a rhaid sicrhau bod gofal y claf yng nghanol ystyriaethau gofal iechyd."