Damwain Casnewydd: Cyhoeddi enw gyrrwr

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r gyrrwr fu farw oherwydd gwrthdrawiad ar ffordd yr A449 yng Nghasnewydd fore Llun.

Y dyn 46 oed oedd Lee Hollister o'r Fenni fu farw yn y fan a'r lle.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i'r safle am 8:35am wedi i gerbyd Peugeot 407 lliw arian fod mewn gwrthdrawiad.

Cafodd yr A449 i gyfeiriad y de ei chau am gyfnod.

Dylai unrhyw un welodd y ddamwain ffonio'r heddlu ar 01633 642404.