Cyngor wedi ymddwyn yn 'anghyfreithlon'
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wedi dweud bod Cyngor Abertawe wedi ymddwyn yn anghyfreithlon wrth drosglwyddo £20m i gyfrif banc yr awdurdod lleol o gronfa bensiwn y cyngor.
Digwyddodd hyn pan newidiodd y cyngor eu banc ym mis Mawrth 2012.
Ond nid oedd gan y cyngor yr hawl i wneud hynny os oedd ganddyn nhw orddrafft.
Mae'r cyngor wedi dweud nad oedd hyn yn anghyfreithlon ond yn "drosglwyddiad cyfrif technegol gan aelod o staff mewn modd didwyll ..."
Mae wedi dod i'r amlwg nid oedd ymddiriedolwyr y gronfa bensiwn na phrif swyddog cyllid y cyngor yn ymwybodol o'r arian yn cael ei drosglwyddo i gyfrif banc y cyngor.
Cafodd yr arian ei ad-dalu ym mis Medi'r llynedd.
£203,000
Mae'r adroddiad wedi dweud bod penderfyniad y cyngor i dalu £203,000 o daliadau llog i'r gronfa bensiwn ers Ebrill 1 2011 hefyd yn anghyfreithlon.
Bu'n rhaid i gynghorau sir a'u cronfeydd pensiwn gael cyfrifon banc gwahanol ers Ebrill 1, 2011.
Dywedodd yr adroddiad fod y cyngor wedi cymryd yn ganiataol am flynyddoedd eu bod wedi bod yn dal buddsoddiadau'r cyngor a'r gronfa bensiwn ar y cyd, gan dalu llog i'r gronfa pensiwn.
Ond yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru, dylai'r cyngor a'r gronfa bensiwn fod wedi trosglwyddo arian o'u cyfrifon gwahanol i greu buddsoddiad ar y cyd.
Ond ni chafodd arian ei drosglwyddo rhwng y cyfrifon gwahanol, yn ôl yr adroddiad.
'Didwyll'
Mae'r adroddiad wedi dweud na ddylai'r cyngor felly fod wedi talu llog i'r gronfa bensiwn.
Wrth ymateb, dywedodd y cyngor nad oedd y trosglwyddiad yn anghyfreithlon ond yn "drosglwyddiad cyfrif technegol gan aelod o staff mewn modd didwyll am fod y cyngor yn newid banciau".
Yn ôl y cyngor, roedd eu swyddogion yn credu bod ganddyn nhw'r hawl i wneud hynny oherwydd cyfarwyddyd Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y cyngor na chafodd unrhyw arian cyhoeddus ei golli a'u bod wedi cymryd camau gyda'u harchwilwyr i sicrhau na fyddai digwyddiad tebyg eto.