Dod o hyd i ferch oedd ar goll
- Cyhoeddwyd
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi dod o hyd i ferch 15 oed aeth ar goll ddydd Llun.
Roedd yr heddlu wedi apelio am wybodaeth am Natasha Williams-Clarke wedi iddi fynd ar goll yn ardal Caergybi.
Y gred oedd ei bod wedi teithio ar drên i ardal Amwythig ar Chwefror 4, a dywedodd yr heddlu mewn datganiad ddydd Mercher eu bod wedi dod o hyd iddi yn yr Amwythig.
Diolchodd yr heddlu am bob cymorth a gafwyd yn dilyn yr apêl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013