Beirniadu taith 'Jones y Jag'
- Published
Mae Ysgrifennydd Cymru, David Jones AS, wedi amddiffyn ei ddefnydd o chauffeur i'w gludo 100 metr o'i swyddfa i Downing Street
Fe'i disgrifiwyd gan y Blaid Lafur fel "Jones y Jag" ar ôl cyrraedd cyfarfod o'r cabinet ddydd Mawrth.
Mae swyddfa Mr Jones yn Whitehall ryw ganllath o Downing Street, dri munud o gerdded ar draws y ffordd.
Yn ôl Mr Jones, doedd y ffrae "ddim o bwys".
Dywedodd: "Y ffaith amdani yw mai dyma fy nghar gweinidogol. Rwy'n ei ddefnyddio i fynd i Downing Street yn rheolaidd am fy mod o hyd yn edrych trwy fy mhapurau tan y funud ola'.
"Fel hyn (wrth deithio mewn car), rwy'n gallu mynd heb orfod mynd trwy'r giât ddiogelwch, a gorfod tynnu fy nghot neu siaced.
"Dydy hyn ddim yn fy mhoeni o gwbl, mae o gyd yn rhan o'r peth. Dyw e ddim o bwys.
'Jones y Jag'
Ym mhapur newydd y Daily Telegraph mae llun o Mr Jones yn camu allan o'i gar Jaguar ar ddiwedd y daith ac fe arhosodd y chauffeur cyn ei gludo yn ôl i Swyddfa Cymru.
Yn ôl rhai, mae'r mater yn embaras i lywodraeth sydd wedi addo torri costau teithiau gweinidogion ond mae Swyddfa Cymru yn mynnu bod Mr Jones yn darllen papurau Cabinet yn y car cyn y cyfarfod.
Dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith AS, na fyddai trethdalwyr yn fodlon ar daith "Jones y Jag".