Cwpan Cymru: Yr wyth olaf yn llawn
- Published
Wedi i'r bedwaredd rownd ddod i ben nos Fawrth, mae'n wybyddus bellach pwy fydd yn wynebu ei gilydd yn rownd wyth olaf Cwpan Bêl-droed Cymru.
Fe fydd clybiau o'r Uwchgynghrair yn wynebu ei gilydd mewn dwy o'r gemau, ond fe fydd o leia' un tîm o'r cynghreiriau is yn y rownd gynderfynol.
Wedi i'r Fflint ennill eu lle yn yr wyth olaf ddydd Sadwrn, roedd dwy gêm yn weddill nos Fawrth.
Yn y gyntaf roedd hi'n rhy hawdd i'r deiliaid - Y Seintiau Newydd - wrth groesawu'r Rhyl i Groesoswallt.
Sgoriodd Chris Seargeant, Matty Williams, Kai Edwards, Michael Wilde a Ryan Fraughan mewn buddugoliaeth o 5-1.
Cyffrous
Roedd y gêm arall yn llawer mwy cyffrous.
Ar ddiwedd 90 munud roedd hi'n gyfartal 1-1 rhwng Y Drenewydd ag Airbus UK Brychdyn.
Luke Boundford roddodd y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Luke McCarthy ddod ag Airbus yn gyfartal wedi 88 munud.
Doedd dim modd gwahanu'r ddau dîm yn yr hanner awr ychwanegol, a bu'n rhaid cymryd ciciau o'r smotyn i benderfynu pwy fyddai'n aros yn y gystadleuaeth.
Airbus aeth â hi o 5-4 i sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.
Cwpan Cymru - Rownd yr wyth olaf :-
Bangor v. Airbus UK Brychdyn;
Tre'r Fflint v. Y Barri;
Caerfyrddin v. Prestatyn;
Hwlffordd v. Y Seintiau Newydd.
Bydd y gemau'n cael eu chwarae ar benwythnos Mawrth 1, 2 neu 3.
Straeon perthnasol
- Published
- 29 Ionawr 2013
- Published
- 26 Ionawr 2013