Merêd yw tywysydd parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Yr arbenigwr cerddoriaeth werin y Dr Meredydd Evans fydd Tywysydd cyntaf parêd blynyddol i ddathlu iaith a diwylliant Cymraeg Aberystwyth.
Mae nifer o sefydliadau Cymraeg wedi trefnu parêd trwy strydoedd y dref i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni.
Bydd yr orymdaith yn dechrau wrth gloc y dref am 1pm ar Fawrth 1 ac yn mynd ar hyd Y Stryd Fawr, Stryd y Popty a Llys y Brenin lle bydd seremoni yn cael ei gynnal.
Bydd y parêd yn cael ei arwain gan Ceri Rhys Matthews o Bencader fydd yn chwarae'r bibgod Gymreig.
Yr Osgordd
Ymysg y perfformwyr eraill fydd yn gorymdeithio bydd Côr Meibion Aberystwyth, Band Arian Aberystwyth, grŵp gwerin Radwm o Aberteifi.
Yn corlannu'r orymdaith fydd Band Drwm Cambria o'r Wyddgrug - yr unig fand drwm unigryw Cymreig.
Gobaith y trefnwyr yw cynnal y parêd yn flynyddol ac i'r perwyl hwn fe fydd y trefnwyr yn anrhydeddu rhywun o ardal Aberystwyth sydd wedi cyfrannu at iaith a diwylliant Cymru gan ei wneud yn Tywysydd y Parêd.
Eleni, y Tywysydd fydd y Dr Meredydd Evans o Gwm Ystwyth sydd wedi cyfrannu i'r iaith a diwylliant Gymraeg er 70 mlynedd.
Caiff y Tywysydd ei gefnogi gan yr Osgordd fydd yn cynnwys prif fachgen a phrif ferch Ysgol Penweddig.
'Digwyddiad arbennig'
Bydd yr awdur a'r darlledwr Lyn Ebenezer yn arwain y seremoni yn Llys y Brenin ac fe fydd y parêd yn cael ei fendithio gan y Parchedig Peter Thomas.
"Digwyddiad arbennig ac unigryw i Gymru yw hwn - nid rhywbeth generic,"meddai Siôn Jobbins, cadeirydd Cymdeithas Parêd.
"Mae genyn ni'n caneuon, mae genyn ni'n hofferynnau a'n drymiau ac rydym am i bobl weld a mwynhau diwylliant unigryw nid diwylliant neu orymdaith gellir ei gweld mewn unrhyw dref arall ym Mhrydain.
"Mae gwregys arbennig wedi ei gomisiynu a'i chynllunio gan Caroline Goodband o'r Borth a chaiff enw Merêd (Y Dr Meredydd Evans) ei wnïo ar y sash."
Daeth nifer o unigolion, clybiau a chymdeithasau yn Aberystwyth megis Merched y Wawr, Twf, yr Urdd, Mudiad Meithrin, UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth), UCAC, Ysgol Penweddig a Menter Iaith Cered at ei gilydd i greu'r digwyddiad, yn ôl Mr Jobbins " fydd yn dangos cryfder, amrywiaeth ac mor unigryw mae diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg".
Dywedodd Dana Edwards, ysgrifenyddes y Parêd: "Bydd y parêd yn arwydd o gefnogaeth a bywiogrwydd yr iaith Gymraeg yn Aberystwyth.
"Edrychwn ymlaen at groesawu'r cyhoedd a chyrff eraill i ymuno â ni yn yr orymdaith - dewch a'ch baneri!"
Straeon perthnasol
- 4 Mawrth 2011
- 1 Mawrth 2010
- 27 Chwefror 2009