Cyngor Gwynedd i godi cyflog uwch-reolwr arall?
- Cyhoeddwyd

Mae cyngor sydd ynghanol ffrae ynghylch cyflogau eu huwch-reolwyr yn ystyried codi cyflog pennaeth yr adran gwasanaethau cymdeithasol 7.8%.
Fe wnaeth mwy na 200 o aelodau undeb Unsain ar Gyngor Gwynedd gynnal protest bythefnos yn ôl, ar ôl i'r cyngor roi codiad cyflog sylweddol i 14 uwch-reolwr.
Bydd un o bwyllgorau'r cyngor yn trafod argymhelliad i godi cyflog pennaeth yr adran gwasanaethau cymdeithasol, tai a hamdden o £75,511 i £80,972 y flwyddyn.
Dywed undeb Unite, sy'n cynrychioli staff y cyngor, eu bod yn gobeithio trefnu cyfarfod ag arweinydd y cyngor, Dyfed Edwards, i drafod y mater.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod swydd y pennaeth gwasanaethau cymdeithasol, tai a hamdden yn un newydd, a gafodd ei chreu ar ôl i ddwy swydd flaenorol gael eu dileu.
Yn ôl y cyngor, mae'r newid wedi arwain at arbediad blynyddol o fwy na £100,000 ac mae asesiad annibynnol wedi ei gynnal i osod graddfa'r swydd newydd.
"Yn dilyn yr asesiad annibynnol hwn, mae'r adroddiad sy'n cael ei gyflwyno i Bwyllgor Penodi Prif Swyddogion y Cyngor yn argymell y bydd Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Hamdden yn derbyn cyflog o £80,972. Mae'r cyflog newydd yn adlewyrchu'r ffaith fod y swydd yn gyfrifol am dros 1,000 o aelodau staff ychwanegol a chyfrifoldeb am gyllideb ychwanegol o £29 miliwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2009