Misoedd cyn cael llinell ffôn yn Llandudno
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion ardal yn y gogledd wedi bod yn aros hyd at wyth mis i gael llinell ffôn yn eu tai.
Dywedodd 15 o berthnogion tai yng Nghyffordd Llandudno, Sir Conwy, nad ydyn nhw'n gallu defnyddio'r ffôn na'r we.
Mae cwmni BT Openreach wedi ymddiheuro a dweud bod angen caniatâd i dyllu'r ffordd fawr er mwyn gosod ceblau newydd.
Dywdeodd un o drigolion Lôn Bedw, Becci Dowle, ei bod wedi syrffedu a'i bod wedi bod yn aros ers haf y llynedd.
"Rwy' wedi gorfod byw heb linell ffôn a bod yn ddibynnol ar y ffôn symudol," meddai.
"Ond mae hynny'n golygu mwy o gost ond dyma'r unig ffordd o wneud pethau fel bancio ar-lein."
Dywedodd y trigolion eu bod nhw wedi cael gwybod nad oedd yna ddigon o geblau yn y ffordd fawr, Victoria Drive.
"Mae'n boenus," meddai Ms Dowle.
'Ceblau'
"Maen nhw wedi anfon peirianwyr, rhai yr holl ffordd o Lerwpwl.
"Mi fyddai rhywun yn meddwl cyn gwneud hynny eu bod yn gwybod fod yna ddigon o geblau er mwyn ein cysylltu â'r gyfnewidfa.
"Dwi ddim yn siwr a ydyn nhw'n gwybod beth sy'n digwydd."
Dywedodd Ashley Court, un arall o'r trigolion, fod y sefyllfa yn chwerthinllyd.
Dywedodd llefarydd ar ran BT Openreach: "Dymunai Openreach ymddiheuro i bobl ar stad am yr oedi yn darparu gwasanaeth ffôn ac rydym yn deall y rhwystredigaeth mae hyn yn ei achosi.
"Mae angen gwaith peirianyddol i osod ceblau newydd er mwyn cryfhau'r rhwydwaith.
"Rydym yn cynnal trafodaethau gyda'r awdurdodau er mwyn cael caniatâd i gynnal gwaith peirianyddol ar y brif ffordd."
Straeon perthnasol
- 5 Rhagfyr 2012
- 17 Medi 2012
- 22 Awst 2012