Damwain: Menyw yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae menyw yn yr ysbyty wedi i gar daro bws oedd yn cludo plant ysgol fore Iau.
Roedd y ddamwain yn Llandeilo Ferwallt, Penrhyn Gŵyr, ychydig wedi 8.15.
Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod nhw wedi torri'r fenyw yn rhydd o'i char a'i bod hi'n diodde' o sioc.
Chafodd neb ei anafu yn y bws.