Tipuric yn cael ei gyfle
- Cyhoeddwyd

Ni fydd capten Cymru Sam Warburton yn wynebu Ffrainc ym Mharis dydd Sadwrn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae ganddo anaf i'w ysgwydd.
Ryan Jones fydd y capten ac mae Justin Tipuric wedi ei ddewis yn flaenasgellwr ochr agored.
Mae Aaron Shingler yn symud i'r fainc.
Un arall sy'n colli ei le ar ôl i Gymru golli 30-22 i'r Iwerddon ddydd Sadwrn yw'r bachwr Matthew Rees.
Richard Hibbard fydd yn ei le gyda Ken Owens ar y fainc.
Cymru: L Halfpenny (Gleision ); A Cuthbert (Gleision), J Davies (Scarlets), J Roberts (Gleision), G North (Scarlets); D Biggar (Gweilch), M Phillips,(Bayonne); G Jenkins (Toulon), R Hibbard (Gweilch), A Jones (Ospreys), A Coombs,(Dreigiau), I Evans (Gweilch), R Jones (Gweilch, capt), J Tipuric (Gweilch), T Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: K Owens (Scarlets), P James (Caerfaddon), C Mitchell (Caerwysg), L Reed (Gleison), A Shingler (Scarlets), L Williams (Gleision), J Hook, (Perpignan), S Williams (Scarlets).
Ffrainc: Y Huget (Toulouse); W Fofana (Clermont Auvergne), M Mermoz (Toulon), M Bastareaud (Toulon), B Fall (Racing Metro); F Michalak (Toulon), M Machenaud (Racing Metro); Y Forestier (Castres), D Szarzewski (Racing Metro), N Mas (Perpignan), J Suta (Toulon), Y Maestri (Toulouse), F Ouedraogo (Montpellier), T Dusautoir (Toulouse, capt), L Picamoles (Toulouse).
Eilyddion: B Kayser (Clermont Auvergne), V Debaty (Clermont Auvergne), L Ducalon (Castres), R Taofifenua (Perpignan), D Chouly (Clermont Auvergne), M Parra (Clermont Auvergne), F Trinh-Duc (Montpellier), F Fritz (Toulouse).