Cofio'r Cawr Addfwyn

  • Cyhoeddwyd
Stamp John CharlesFfynhonnell y llun, Royal Mail
Disgrifiad o’r llun,
Lluniwyd y ddelwedd ar stamp John Charles gan yr artist Andrew Kinsman

Bydd un o gewri pêl-droed Cymru, John Charles, yn cael ei anfarwoli ar stamp fydd yn cael ei gyhoeddi fel rhan o gyfres gan y Post Brenhinol ym mis Mai.

Mae'r stampiau yn nodi 150 mlynedd ers creu rheolau'r gêm bêl-droed, ac ers sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (yr FA).

Bydd y gyfres yn cynnwys chwaraewyr o bedwar tîm y DU yn gwisgo'u crysau cenedlaethol - John Charles yw unig gynrychiolydd Cymru.

Cafodd y lluniau ar y stampiau eu paratoi gan yr artist Andrew Kinsman a wnaeth addasu ffotograffau o'r chwaraewyr.

Pan mae'r 11 stamp yn cael eu gosod ochr yn ochr, maen nhw'n edrych fel llun tîm traddodiadol.

Cawr

Yn dilyn cyfnod fel prentis gydag Abertawe, aeth John Charles ymlaen i gynrychioli clybiau Caerdydd, Leeds United a Juventus yn yr Eidal lle cafodd ei enwi yn 'Il Gigante Buono' - y Cawr Addfwyn.

Roedd yn cael ei ystyried nid yn unig yn chwaraewr gorau Cymru erioed, ond hefyd yn un o oreuon y byd yn ei gyfnod.

Yn chwaraewr amryddawn, fe chwaraeodd yng nghanol yr amddiffyn ac fel prif ymosodwr.

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford:

"Bydd pob cefnogwr pêl-droed, nid dim ond yng Nghymru, yn falch iawn o glywed y bydd John Charles yn cael ei gydnabod a'i anrhydeddu yn y modd yma.

"Cafodd John Charles ei ddisgrifio fel blaenwr ac amddiffynnwr o safon byd eang. Ond roedd yn ŵr bonheddig yng ngwir ystyr y gair oedd bob amser yn dangos parch aruthrol at bawb.

"Roedd yn Gymro balch - un o wir gewri'r gêm heb os."

Gweddill y stampiau

Y tîm cyfan fydd yn ymddangos ar y stampiau yw :

  • 1. Gordon Banks (Lloegr)
  • 2. Bobby Moore (Lloegr)
  • 3. Dave Mackay (Yr Alban)
  • 4. John Charles (Cymru)
  • 5. Bryan Robson (Lloegr)
  • 6. Denis Law (Yr Alban)
  • 7. Bobby Charlton (Lloegr)
  • 8. John Barnes (Lloegr)
  • 9. George Best (Gogledd Iwerddon)
  • 10. Jimmy Greaves (Lloegr)
  • 11. Kevin Keegan (Lloegr)

Mae modd archebu'r stampiau o ddydd Gwener drwy fynd i wefan arbennig y Post Brenhinol, ac fe fydd y stampiau ar gael i'r cyhoedd o fis Mai 9, 2013.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol