Lladrad cig: Heddlu'n ymchwilio
- Published
Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn am help y cyhoedd wedi lladrad o fwyty Afon Conwy yng Nghonwy.
Maen nhw'n dweud bod lladron wedi dwyn cyflenwad mawr o gig yn ystod yr oriau mân ddydd Iau.
Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd.
Dywedodd PC Huw Capper o Orsaf Heddlu Bae Colwyn sy'n ymchwilio i'r digwyddiad: "Rhyw dro rhwng hanner nos a 2 am dydd Iau Chwefror 7 torrodd lladron i mewn i fwyty'r Afon Conwy a dwyn swm sylweddol o gig o'r oergell."
"Rwy'n awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn ardal 'Black Cat', Glan Gonwy ac a allai fod wedi gweld unrhyw beth amheus neu a allai fod yn gwybod pwy sy'n gyfrifol.
"Hoffwn glywed gan unrhyw un hefyd sydd wedi cael cynnig prynu cig yn yr ardal leol."
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ffoniwch Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.