Llywodraeth yn atal cronfa dros dro

  • Cyhoeddwyd
Ail-ddatblygiad Castell-neddFfynhonnell y llun, Neath port talbot council
Disgrifiad o’r llun,
Cynllun ail-ddatblygu gwerth £13 miliwn ar gyfer canol tref Castell-nedd yw unig fuddsoddiad cyhoeddus y gronfa hyd yn hyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi atal dros dro cronfa fuddsoddi gwerth degau o filiynau o bunnoedd ac wedi cyhoeddi dau ymchwiliad.

Mae Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio eisoes yn destun ymchwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Cynllun ail-ddatblygu gwerth £13 miliwn ar gyfer canol tref Castell-nedd yw unig fuddsoddiad cyhoeddus y gronfa hyd yn hyn.

Ond mae wyth cynllun arall fyddai'n derbyn cyllid hefyd ar y gweill.

Ymchwiliad

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y gronfa, Huw Lewis, ei fod yn comisiynu'r ymchwiliadau i leihau effaith y gwaharddiad ar weithgareddau'r gronfa a'r cynlluniau mae'n ceisio eu cefnogi.

Ychwanegodd Mr Lewis y byddai'r ymchwiliadau ynghylch y modd mae'r gronfa wedi cael ei reoli gan y llywodraeth yn ategu ymchwiliad Swyddfa Archwilio Cymru.

Cafodd pryderon ynghylch y gronfa eu codi'n gyntaf gan yr AC Ceidwadol, Byron Davies.

Gofynnodd Mr Davies pam oedd 16 llain o dir oedd yn berchen i'r llywodraeth wedi eu gwerthu am £22 miliwn heb broses ceisiadau cystadleuol.

Cafodd yr arian hwn ac arian Ewropeaidd ei ddefnyddio i ariannu'r gronfa.

Cafodd un llain o dir yng ngogledd Caerdydd ei chlustnodi ar gyfer adeiladu tai yn fuan wedyn, gan gynyddu gwerth y tir yn sylweddol.

'Pryder go iawn'

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies: "Mae hwn yn bryder go iawn o ran adfywio oherwydd mae'r prosiectau wnaeth gynnig am gyllid wedi eu hatal yn gyfan gwbl.

"Dydyn nhw ddim yn gwybod beth fydd eu dyfodol."

Ychwanegodd fod ACau wedi cael eu hatal rhag holi Gweinidogion ynghylch y datblygiadau diweddaraf oherwydd bod datganiad y llywodraeth wedi cael ei gyhoeddi nos Iau, y noson cyn i'r Cynulliad gymryd egwyl ganol tymor

"Unwaith eto mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddiffygiol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol