Symud swyddi?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Rhun ap Iorwerth yn holi prif weithredwr S4C, Ian Jones.

Flwyddyn wedi iddo gymryd yr awenau, mae prif weithredwr S4C wedi dweud bod y ddadl dros symud swyddi'r sianel allan o Gaerdydd wedi cryfhau.

Dywedodd Ian Jones wrth BBC Cymru bod ffigyrau Cyfrifiad 2011 a gyhoeddwyd yn ddiweddar wedi cryfhau'r ddadl dros symud swyddi i ardaloedd Cymraeg eu hiaith.

Ychwanegodd ei fod yn teimlo'n gryf bod angen gwneud hynny os fyddai'r newid yn gwneud synnwyr yn economaidd.

'Positif iawn'

Mewn cyfweliad arbennig gyda Rhun ap Iorwerth ar Newyddion nos Iau, dywedodd Ian Jones:

"Cyn i ffigyrau'r Cyfrifiad ddod allan, fe wnaethon ni benderfyniad i gychwyn astudiaeth dichonolrwydd i edrych ar adleoli rhannau o weithgarwch S4C i'r cymunedau Cymraeg.

"Rwy'n teimlo'n gryf iawn y dylen ni edrych ar hyn a dwi'n teimlo hefyd os gallwn ni ffindo ffordd - yn economaidd ac yn ymarferol - i wneud hynny, bydde hynny'n bositif iawn i'r cymunedau hynny."

'Sefydlogrwydd'

Cafodd Mr Jones ei benodi yng nghanol cyfnod cythryblus i'r sianel, ac roedd yn cyfaddef nad oedd ei flwyddyn gyntaf wrth y llyw wedi bod yn hawdd.

"Mae 'di bod yn flwyddyn brysur tu hwnt ac yn flwyddyn heriol iawn," meddai.

"Pan gychwynnais i, ro'n i'n awyddus i gyflawni nifer o bethau - i gydweithio gyda'r sector i sicrhau mwy o sefydlogrwydd i'r gwasanaeth a mwy o sefydlogrwydd i'r gadwyn gyflenwi - i wrando mwy ar y gynulleidfa.

"Rydym wedi cychwyn ar y broses, ond yn sicr ddim ar ddiwedd y daith eto."

Roedd yn cydnabod hefyd nad yw trafferthion y sianel ar ben chwaith wrth iddi barhau i drafod gyda llywodraeth y DU am drefn gyllido'r sianel yn y dyfodol.

"Ffolineb fyddai meddwl bod y dyfodol yn mynd i fod yn gyfforddus a didrafferth.

"Mae lot o heriau yn ein hwynebu ni o hyd."