Achub saith o bobl o dân mewn fflat
- Published
Cafodd saith o bobl eu hachub o dân mewn fflat yn y Bermo yng Ngwynedd nos Iau.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad ar Stryd Fawr y dref am 7:38pm.
Tra bod diffoddwyr ar eu ffordd, fe roddodd swyddog o'r gwasanaeth gyngor dros y ffôn i'r teulu am sut i oroesi.
Dywedodd y fenyw ar y ffôn ei bod hi, ei brawd, ei phartner a phedwar o blant yn sownd yn y fflat gan bod y fflamau yn eu rhwystro rhag mynd allan.
Cyrhaeddodd y criw o fewn pedwar munud, ac fe lwyddon nhw i achub y teulu o ffenest ar lawr cynta'r adeilad.
Aeth criwiau o Ddolgellau a Harlech i'r digwyddiad hefyd, ac maen nhw'n dal i geisio diffodd y fflamau'n llwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân bod y person a ffoniodd 999 wedi bod "yn dda iawn ar y ffôn".
"Fe arhosodd yn ddigynnwrf gan drosglwyddo'r wybodaeth i weddill y bobl oedd yno."
Mae offer anadlu arbennig wedi cael ei ddefnyddio gan y diffoddwyr, ac maen nhw wedi bod yn taclo'r tân fesul rhannau poeth penodol.
Mae ymchwiliad eisoes wedi dechrau i achos y tân, ond y gred ar hyn o bryd yw ei fod wedi cynnau yng nghyntedd cymunedol yr adeilad.