Pryder ffermwyr am feirws

  • Cyhoeddwyd
Feirws Schmallenberg
Disgrifiad o’r llun,
Mae brechlyn yn cael ei ddatblygu i geisio atal ymlediad y clefyd

Bu cynnydd yn nifer yr ŵyn s'n cael eu geni gyda nam corfforol yn ôl nifer o ffermwyr de Cymru.

Feirws Schmallenberg sy'n cael y bai am y colledion, ac yn ôl Defra - adran amaeth llywodraeth y DU - mae tua 1,200 o achosion yng Nghymru a Lloegr bellach.

Does dim perygl i iechyd pobl gan y feirws, sy'n cael ei drosglwyddo gan bryfyn sy'n heintio gwartheg a defaid yn ystod misoedd yr haf a'r hydref.

Does dim rhaid i ffermwyr ddweud wrth yr awdurdodau os oes achos o'r haint ar eu ffermydd - nid yw Schmallenberg yn cael ei ystyried mor ddifrifol â'r diciâu, clefyd y tafod glas neu glwyf y traed a'r genau.

Ond oherwydd hynny hefyd, does dim iawndal i ffermwyr sy'n diodde' colledion oherwydd Schmallenberg, ac mae hynny'n bryder i lawer.

Canlyniad arall i hynny yw ei bod yn anodd os nad yn amhosib dilyn ymlediad y clefyd, ac mae achosion eisoes wedi dod i'r amlwg ymhellach i'r gorllewin yn ardal Abertawe yn ogystal.

Mae brechlyn yn cael ei ddatblygu i atal y clefyd, ond nid yw wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Meddyginiaethau Milfeddygol eto.