Tafarnwr o Gaernarfon: 40 mis o garchar
- Cyhoeddwyd
Mae tafarnwr o Gaernarfon wedi ei garcharu am 40 mis ar ôl cyfaddef i feddiannu cyffuriau gwerth £38,000 gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Darren Billinghurst, 32 oed, wedi bod yn gydweithredol gyda'r heddlu ar ôl iddynt ddechrau chwilio am gyffuriau yn nhafarn y Castell ym mis Hydref y llynedd.
Ond newidiodd ei wedd pan agorodd plismyn gwpwrdd yn ystafell doiled y staff gan ddarganfod bagiau o gocên.
Clywodd y llys fod Billinghurst yn edrych ar ôl y cyffuriau i gyflenwr cyffuriau.
'Dibynadwy a gonest'
Dywedodd y Barnwr, Dafydd Hughes: "Pan gytunoch chi i edrych ar ôl y cyffuriau roeddech chi'n cymryd rhan mewn gweithred sydd yn llawer rhy gyffredin yn ein cymdeithas y dyddiau hyn, sef cyflenwi cyffuriau.
"Mae'r cyffuriau hyn yn dinistrio teuluoedd ac yn dinistrio bywydau.
"Rwy'n derbyn eich bod ar brydiau yn dioddef problemau ariannol ond nid hon yw'r ffordd i ddatrys y problemau hyn.
Dywedodd y bargyfreithiwr Simon Mintz ar ran yr amddiffynnydd nad oedd Billinghurst wedi cyflawni trosedd o'r blaen a'i fod yn cael ei ddisgrifio gan bobl sy'n ei adnabod fel dyn "dibynadwy a gonest".