Ewrop: Cytundeb ar gyllideb?
- Cyhoeddwyd

Ar ôl dros 15 awr o drafodaethau dros nos mae yna adroddiadau bod arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd wedi dod i gytundeb bras ynglŷn â chyllideb ar gyfer 2014-2020.
Mae'n ymddangos bod uchafswm gwariant o 960 biliwn euro, £818 biliwn dros gyfnod o saith mlynedd wedi ei gytuno.
Roedd Prydain a rhai gwledydd eraill am weld toriad yn y gyllideb tra bod Ffrainc ac eraill yn ofni y byddai hynny'n effeithio ar dwf economaidd.
Bydd y trafodaethau ym Mrwsel yn parhau er mwyn ceisio cael cytundeb ynglŷn â sut i rannu'r arian rhwng y gwahanol wledydd.
Os ydy'r ffigyrau'n cael eu cadarnhau, dyma fyddai'r tro cyntaf i wledydd yr Undeb gytuno ar doriad yn y gyllideb, yn y gorffennol mae trafodaethau tebyg wedi arwain at gynnydd.
Byddai'n rhaid i'r cytundeb fynd gerbron Senedd Ewrop.
Toriadau
Mae gan unrhyw un o'r 27 gwlad sy'n rhan o'r trafodaethau yr hawl i bleidlais feto.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhybuddio y gallai toriadau yn y gyllideb effeithio ar gymorthdaliadau i Orllewin Cymru a'r Cymoedd.
Yn wreiddiol roedd y Comisiwn Ewropeaidd - corff gweithredol yr Undeb Ewropeaidd - am weld cyllideb o 1,025 biliwn euro (£885 biliwn) - sef cynnydd o 5%.
Ond cafodd y terfyn yna ei dorri nôl i 973 biliwn euro ar ôl trafodaethau rhwng arweinwyr y gwahanol wledydd ym mis Tachwedd y llynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2011