Gwrthdrawiad: Dyn wedi marw
- Published
Mae dyn 92 oed o ardal Llanbedr Pont Steffan wedi marw wedi digwyddiad rhwng Llanybydder a Chwmann.
Derbyniodd yr heddlu adroddiad bod car wedi troi drosodd mewn cae ger yr A485 tua 11 o'r gloch nos Iau.
Roedd dau berson yn y car.
Aed â'r gyrrwr i Ysbyty Glangwili ger Caerfyrddin gydag anafiadau i'w ben.
Roedd y teithiwr wedi marw ac mae ei deulu wedi cael gwybod.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio ar dystion a allai fod wedi bod ar y ffordd adeg y gwrthdrawiad i gysylltu â'u huned blismona ffyrdd ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol