Cynlluniau i ganoli'r Eisteddfod?
- Published
Mae prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn "poeni'n fawr" bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r posibilrwydd o ganoli'r brifwyl ar ddau safle parhaol.
Dywed Elfed Roberts ei fod yn credu byddai penderfyniad o'r fath yn drychineb ac yn haneru dylanwad yr Ŵyl wrth geisio diogelu a chynyddu defnydd o'r Gymraeg led led Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru sydd wedi sefydlu grŵp arbennig i edrych ar ddyfodol yr Eisteddfod a'r grŵp yma sy'n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.
Mewn llythyr at gefnogwyr yr Ŵyl mae Mr Roberts yn dweud:
"Gwyddom fod y grŵp yn trafod ac yn ystyried canoli'r Eisteddfod ar ddau safle parhaol, ac mae hyn yn ein pryderu'n fawr.
"Rydym yn credu y byddai hyn yn haneru dylanwad a chyfraniad y Brifwyl, a byddai hynny'n drychineb yn ein cyfnod ni."
Mae'r prif weithredwr yn annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad.
Yn ystod y Brifwyl ym Mro Morgannwg y llynedd fe wnaeth y Gweinidog Addysg Leighton Andrews , sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg, gyhoeddi ei fod am gynnal arolwg o'r Eisteddfod.
Mae Mr Andrews am weld a ellir ehangu apêl yr Eisteddfod.
Awgrymodd Mr Andrews fod 'na bosibilrwydd y gallai'r Brifwyl gael mwy o arian petai nhw'n moderneiddio ac yn ehangu'r apêl.
Cymreictod
Fe wnaeth yr Eisteddfod ymddangos gerbron y grŵp ym mis Tachwedd gan gyflwyno eu safbwynt ynglŷn â dyfodol yr ŵyl.
Ond y posibilrwydd o leoli'r Eisteddfod ar ddau safle yw prif destun llythyr diweddar Mr Roberts i gefnogwyr yr Ŵyl.
"Yn ein barn ni proses ac nid digwyddiad yw'r Eisteddfod ac mae'r broses, sy'n parhau dros ddwy flynedd yn yr ardal leol yn rhoi chwistrelliad o Gymreictod ac o'r Gymraeg i'r fro," meddai Mr Roberts yn ei lythyr.
"Mae gallu'r Eisteddfod Genedlaethol i ymweld ag ardaloedd gwahanol yng Nghymru yn allweddol yn ein gwaith i geisio sicrhau dyfodol ffyniannus i'r Gymraeg.
"Nid oes unrhyw ddigwyddiad na phrosiect arall a all roi'r fath hwb i ardal na'r fath broffil i'r Gymraeg a'n diwylliant, ac a all ddenu tua 150,000 o ymwelwyr i ran wahanol o'n gwlad bob blwyddyn gan roi hwb economaidd gwirioneddol i ardal mewn cyfnod mor hir o gyni economaidd."
Straeon perthnasol
- Published
- 17 Ionawr 2013
- Published
- 11 Awst 2012