Prifysgol y Drindod Dewi Sant: Protest am ddiswyddiadau
- Cyhoeddwyd
Mae tua 60 myfyriwr prifysgol yn protestio oherwydd y gallai mwy o ddarlithwyr gael eu diswyddo.
Fore Gwener aeth myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i adeilad campws Llanbedr Pont Steffan.
Dywedon nhw na fydden nhw'n gadael tan i'r brifysgol gytuno i'w galwadau i beidio â diswyddo staff yn ystod y flwyddyn academaidd.
Ym mis Ionawr fe gyhoeddwyd y gallai rhagor o bobl golli eu swyddi yn y brifysgol.
Toriadau
Yn 2009 collodd 46 eu swyddi ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan fisoedd cyn iddyn nhw uno â Choleg y Drindod Caerfyrddin.
Mae cyfnod ymgynghori wedi dechrau ond dyw hi ddim yn glir faint o swyddi allai gael eu colli y tro hwn.
Deellir bod staff wedi eu hysbysu y gallai mwy o doriadau effeithio ar nifer o adrannau.
Mae'r rhain yn cynnwys yr adrannau Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol Astudiaethau Islamaidd, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Busnes, Cyfrifiadureg, Marchnata a Chyfathrebu, a Chymraeg ac Astudiaethau Dwyieithog.
Cyfyngiadau ariannol
Dywedodd un o'r protestwyr, Zoe Towers, sy'n fyfyriwr Hanes Crefydd: "Rwyf wedi colli fy nhiwtor personol sydd wedi cael ei ddiswyddo ac rwy'n adnabod nifer o fyfyrwyr eraill sydd yn yr un sefyllfa â mi.
"Mae hyn yn effeithio ar ein haddysg wrth inni baratoi ar gyfer sefyll arholiadau gradd.
"Rydym yn mynnu bod y brifysgol yn sicrhau na fydd staff academaidd yn cael eu diswyddo yn ystod y flwyddyn academaidd.
"Wrth gwrs, rydym yn deall bod angen gwneud toriadau yn ystod cyfnod o gyni economaidd ond nid yw gwneud toriadau yn ystod y flwyddyn academaidd yn gynhyrchiol."
Mae llefarydd ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi dweud: "Bu'n rhaid i bum adran ar gampysau Llanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin gael eu hailstrwythuro oherwydd bod nifer y myfyrwyr yn golygu bod nifer y cyrsiau yn yr adrannau hyn yn llai na'r disgwyl."
Dywedodd fod y brifysgol yn nesáu at derfyn y broses sydd wedi cynnwys cynllun diswyddo gwirfoddol ac ail-leoli nifer fach o staff.
'Rheoli'
"Wedi i aelodau staff gael eu diswyddo'n wirfoddol mae'r brifysgol wedi rheoli drwy ddosbarthu modiwlau i aelodau eraill o'r staff gyda'r un arbenigedd neu gynnig modiwlau amgen i fyfyrwyr.
"Mae'r brifysgol wedi cysylltu â'r myfyrwyr sydd wedi eu heffeithio drwy e-byst, llythyrau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb."
Yn gynharach eleni galwodd Undeb y Myfyrwyr y brifysgol ar yr Is-Ganghellor, Medwyn Hughes, i dderbyn gostyngiad sylweddol i'w gyflog oherwydd bod y sefydliad yn wynebu cyfyngiadau ariannol.
Mae dros 300 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein yn galw ar gyflog Yr Athro Hughes i aros yn £140,000 am y pum mlynedd nesaf.
Ym mis Hydref unodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe ac mae 13,000 o fyfyrwyr yn astudio yn y sefydliad.
Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi dweud bod angen lleihau nifer y prifysgolion yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- 3 Ionawr 2013
- 12 Hydref 2012
- 21 Hydref 2011
- 22 Gorffennaf 2010
- 16 Ebrill 2009
- 27 Mai 2009