Gyrrwr trên yn cael 'ysgytwad'
- Published
Mae gyrrwr trên yn "lwcus iawn" ar ôl i rywun daflu rhywbeth at y trên, yn ôl yr heddlu.
Dywedodd yr heddlu fod ffenest caban y gyrrwr wedi ei difrodi oherwydd gweithred "anghyfrifol dros ben" wrth i'r trên deithio 60 m.y.a. drwy orsaf rheilffordd Pont-y-clun ger Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf nos Fawrth.
Chafodd y gyrrwr ddim ei anafu ond fe gafodd gymaint o ysgytwad nes iddo roi'r gorau i'w waith.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain fod taflu'r gwrthrych yn "fandaliaeth fwriadol".
£4,000
Dywedodd y Cwnstabl Craig Farrell: "Y gred yw y cafodd carreg ei thaflu o blatfform neu bont droed.
"Mae'n amlwg fod hon yn weithred beryglus."
Ychwanegodd fod diogelwch y gyrrwr wedi ei beryglu ac y byddai'n costio tua £4,000 i osod ffenest newydd.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhywun oedd yn yr orsaf reilffordd ar y pryd ac a welodd unrhyw beth amheus i ffonio 0800 405040 neu ffonio Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.