Hysbysebu ddwywaith: Un ymgeisydd
- Published
Er bod ysgol wedi hysbysebu am bennaeth parhaol ddwywaith dim ond un ymgeisydd sy' wedi mynegi diddordeb.
Dywedodd cyngor Môn eu bod yn amcangyfri' fod o leia' £95,000 wedi eu gwario ar gyflogi penaethiaid ac athrawon dros dro yn Ysgol Goronwy Owen yn Benllech, Ynys Môn ers Medi 2011.
Cafodd swydd y pennaeth ar gyflog o £52,000 ei hysbysebu yn Hydref a Thachwedd 2012.
Mae BBC Cymru wedi cael gwybod y bydd tribiwnlys cyflogaeth y cyn-bennaeth, Ann Hughes, ar Fawrth 25 a 26.
Gwahardd
Mae hi'n honni diswyddiad annheg.
Cafodd ei gwahardd o'i gwaith yng Ngorffennaf 2011 a chadarnhawyd ei bod wedi ei diswyddo ym Medi 2012.
Ym Mai 2011 roedd pump allan o chwech athro yn sâl ac yn bygwth gweithredu diwydiannol wedi i gynnig diffyg hyder gael ei basio.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Dyw nifer fach o ymgeiswyr ar gyfer swydd pennaeth ddim yn anarferol.
"Mae cytundeb y pennaeth dros dro wedi ei estyn yn ddiweddar.
"Ni fyddai'n addas gwneud mwy o sylwadau oherwydd y tribiwnlys."