Canlyniadau Blue Square
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Fe wnaeth Wrecsam sicrhau tri phwynt yn erbyn Stockport gyda goliau gan Joe Clarke, Danny Wright a Rob Ogleby.
Aeth Wrecsam ar y blaen ar ôl wyth munud gyda Clarke yn sgorio o groesiad Johnny Hunt.
Fe wnaeth yr ymwelwyr bwyso ar gôl Wrecsam gan roi'r bel yn y rhwyd ond i'r dyfarnwr ddweud fod yna gamsefyll.
Roedd Wrecsam 3-0 ar y blaen cyn i Connor Jennings sgorio yn yr amser ychwanegol.
Casnewydd 2-2 Tamworth
Fe wnaeth cic o'r smotyn ym munudau ola'r gem rwystro Casnewydd rhag sicrhau tri phwynt yn Rodney Parade.
Aeth Casnewydd ar y blaen ar ôl dim ond 26 eiliad diolch i Scott Donnelly, gyda Byron Anthony yn sgorio'r ail cyn yr egwyl.
Straeon perthnasol
- 27 Hydref 2012
- 13 Hydref 2012
- 9 Hydref 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol