Damwain: Apêl am dystion
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 21 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan gar yn Abertawe.
Digwyddodd y ddamwain ar Fabian Way am 11.15pm nos Sadwrn.
Roedd o'n croesi yr A483 ger ffordd Port Tennant pan gafodd ei daro gan gar Skoda Octavia du.
Aed ag ef i Ysbyty Athrofaol Caerdydd gydag anafiadau difrifol.
Mae Heddlu'r De yn apelio ar unrhyw dystion i'r digwyddiad i gysylltu â nhw ar 01656 655 555