Rhybudd o eira
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud y gallai eira achosi problemau ar y ffyrdd mewn rhannau o Gymru nos Sul a bore Llun.
Mae rhybudd melyn "byddwch yn barod" wedi ei osod ar gyfer rhannau o ddwyrain Cymru tan 7am fore Llun.
Disgwylir i'r eira fod yn fwy trwm ar y tir uchel, gyda glaw cyson yn yr iseldir.
Mae rhybudd o rew ar gyfer bore Llun ac yn ôl y Swyddfa Dywydd fe allai hyn achosi problemau wrth i bobl fynd i'w gwaith.