Gamblo: Galw am reoleiddio
- Cyhoeddwyd

Cafodd dros £1.5 biliwn ei wario ar beiriannau casino yng Nghymru'r llynedd yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae'r swm yn cyfateb £650 y pen ar gyfer pob oedolyn yng Nghymru.
Dywed elusen Fairer Gamblingfod angen mwy o reoleiddio er mwyn gwarchod y rhai sy'n gaeth i gamblo.
Ond mae Cymdeithas Bwcis Prydain yn dadlau fod y rheolau'n ddigon caeth yn barod, ac nad oes tystiolaeth fod peiriannau gamblo'n achosi problem.
Mae'r peiriannau dan sylw i'w cael yn y rhan fwyaf o siopau bwcis ar y stryd fawr.
Mae modd betio hyd at £100 bob 20 eiliad arnynt.
Ystadegau
Yng Nghymru, amcangyfrifir fod bwcis wedi elwa £50 miliwn o'r peiriannau'r llynedd, cynnydd o 6% ar 2011.
Ond mae'r ffigyrau hefyd yn dangos fod y gwariant yn Lloegr yn uwch, gyfystyr a £863 ar gyfer pob oedolyn - cynnydd o 10% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Defnyddiodd Fairer Gambling ystadegau'r Comisiwn Gamblo.
Dywed Cymdeithas Bwcis Prydain nad oedd yna unrhyw dystiolaeth fod y peiriannau gamblo yn achosi problemau.
Ond mae Ingrid Wallace sy'n gweithio i asiantaeth sy'n cynorthwyo pobl sy'n gaeth i gamblo yng Nghaerdydd yn poeni am y nifer o bobl sydd angen help ganddynt.
"Mae'n hawdd colli cyfri o faint sy'n cael ei fetio ar y peiriannau," meddai.
"Mae'n bosib gwario swm gweddol uchel ar y peiriannau hyn a hynny drwy bwyso botwm.
"Ond gyda dulliau eraill o osod bet neu pan mae pobl yn chwarae'r loteri genedlaethol mae'n cymryd ychydig yn fwy o amser, felly mae mwy o gyfle i feddwl. "
Dywedodd Dirk Vennix o Gymdeithas Bwcis Prydain fod y rhan fwyaf o bobl yn betio yn "ddiogel a synhwyrol."
Awgrymodd fod gamblo yn broblem i lai na 1% o'r rhai sy'n gwneud hynny.
"Rhaid cofio mai dyma'r sector sy'n wynebu'r rheoleiddio mwyaf llym o holl fusnesau'r stryd fawr.
"Mae siopau betio yn cyflogi 2,000 o bobl yng Nghymru ac yn cyfrannu £100 miliwn i economi Cymru."