Williams yn ail rownd Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Curodd Mark Williams Liu Chang yn y rownd gyntaf ddydd Llun
Mae'r cyn-bencampwr byd, Mark Williams wedi cyrraedd ail rownd Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru.
Curodd y dyn o'r Cwm ger Glyn Ebwy Liu Chang o China o bedair ffrâm i un ar ddiwrnod cynta'r gystadleuaeth yng Nghasnewydd.
Ond colli fu hanes dau Gymro arall, Ryan Day i Liang Wenbo o China a Gareth Allen yn erbyn cyn Bencampwr y Byd, John Higgins.
Mae Matthew Stevens yn herio Alfie Burden o Loegr brynhawn Iau.
Canlyniadau'r Cymry:
Rownd 1
Ryan Day 1-4 Liang Wenbo (China)
Mark Williams 4-1 Liu Chang (China)
Gareth Allen 1-4 John Higgins (Yr Alban)
Matthew Stevens v Alfie Burden (Lloegr) (2pm ddydd Llun)
Dominic Dale v Daniel Wells (7pm nos Lun)
Straeon perthnasol
- 20 Chwefror 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol