Bryn Terfel a'i wraig wedi gwahanu
- Cyhoeddwyd
Mae asiant Bryn Terfel wedi cyhoeddi bod y canwr opera a'i wraig wedi gwahanu.
Rhyddhaodd Doreen O'Neill, asiant y canwr o Bontnewydd, Caernarfon, ers 26 blynedd, ddatganiad am y sefyllfa ddydd Llun.
Mae'r canwr 47 oed yn perfformio yn yr opera Falstaff gan Verdi yn Milan yn Yr Eidal.
Does dim disgwyl iddo ddychwelyd i Gymru tan ganol mis Mai.
Dywedodd y datganiad: "Gyda'r tristwch mwyaf, ychydig cyn y Nadolig, cytunodd Bryn Terfel a'i wraig Lesley i wahanu ac maen nhw'n delio â'r trefniadau angenrheidiol yn gyfeillgar.
"Er mwyn eu plant mae'r ddau'n gofyn i bawb barchu eu preifatrwydd ac ni fyddan nhw'n gwneud unrhyw sylwadau pellach."
Mae Mr Terfel a'i wraig wedi bod yn briod am 25 mlynedd ac mae ganddyn nhw dri o blant.
Straeon perthnasol
- 20 Rhagfyr 2012
- 15 Hydref 2012
- 4 Gorffennaf 2012