Dau Gymro arall yn llwyddo ym Mhencampwriaeth Agored Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Matthew Stevens a Dominic Dale wedi ymuno â'r cyn-bencampwr byd, Mark Williams, yn rownd nesaf Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru.
Curodd Dale Gymro arall, David Wells, yn y rownd ragbrofol i gyrraedd y rownd gyntaf nos Lun a churodd Stevens Alfie Burden o Loegr yn ystod chwarae'r prynhawn.
Curodd Williams Liu Chang o China o bedair ffrâm i un ar ddiwrnod cynta'r gystadleuaeth yng Nghasnewydd.
Ond colli wnaeth dau Gymro arall - Ryan Day i Liang Wenbo o China, a Gareth Allen yn erbyn cyn-Bencampwr y Byd, John Higgins.
Fe fydd Dale nawr yn herio Judd Trump o Loegr yn y rownd gyntaf ac fe fydd Williams yn chwarae yn erbyn Robert Milkins.
Liang Webo o China fydd gwrthwynebydd Matthew Stevens yn y rownd nesaf.
Canlyniadau'r Cymry:
Rownd rhagbrogol (Dydd Llun)
Ryan Day 1-4 Liang Wenbo (China)
Mark Williams 4-1 Liu Chang (China)
Gareth Allen 1-4 John Higgins (Yr Alban)
Matthew Stevens 4-2 Alfie Burden (Lloegr)
Dominic Dale 4-1 Daniel Wells
Straeon perthnasol
- 11 Chwefror 2013
- 20 Chwefror 2012