Un o lofruddwyr James Bulger 'yn berson milain'
- Cyhoeddwyd

Ugain mlynedd ers i fachgen dyflwydd oed gael ei lofruddio, mae cyn dditectif ar Lannau Mersi wedi dweud wrth BBC Cymru na fedr o faddau i'r ddau ddyn ifanc ifanc a lofruddiodd James Bulger.
Cafodd ei gipio o ganolfan siopau The Strand yn Bootle a'i ladd gan Robert Thompson a Jon Venables ger lein rheilffordd yn ardal Walton.
Roedd y ddau yn 10 oed ar y pryd, dau o'r bobl ieuengaf i ymddangos yn llysoedd Prydain i wynebu cyhuddiadau o lofruddio.
Roedd Phil Roberts yn un o'r rhai a holodd Thompson yn y ddalfa.
Mae o wedi dweud wrth raglen Y Post Cyntaf fod Thompson "yn berson milain".
"Pan weles i o gynta', bachgen 10 oed yn meddwl na allai fod yn gyfrifol am lofruddio.
"Dwi'n meddwl mai Thompson oedd yr arweinydd, yn graff.
"I mi roedd Thompson yn filain."
Rhyddhau
Dylan Jones yn holi Phil Roberts a oedd wedi arestio Robert Thompson
Yn wreiddiol, fe gafodd Thompson a Venables eu carcharu am wyth mlynedd yr un; yna 10 mlynedd, cyn i'r Ysgrifennydd Cartref ar y pryd - Michael Howard - ychwanegu pum mlynedd arall.
Ond fe ddyfarnodd Tŷ'r Arglwyddi nad oedd ganddo'r hawl i wneud hynny.
Yn 1999, fe aeth yr achos i Lys Hawliau Dynol Ewrop, wrth i gyfreithwyr honni na ddylai'r ddau fachgen fod wedi sefyll eu prawf mewn llys ar gyfer oedolion.
Yn 2001, fe ddaeth y Bwrdd Parôl i'r casgliad y dylai'r ddau gael eu rhyddhau, ond ag enwau newydd er mwyn atal pobl rhag gwneud niwed iddyn nhw, am nad oedden nhw'n "fygythiad i gymdeithas".
Yn 2010 cafodd Venables ei alw'n ôl i'r carchar.
'Camgymeriad gwirion'
Dywed mam James Bulger, Denise Fergus, nad ydi hi'n credu y dylai gael ei ryddhau.
"Dwi'n dal i feddwl nad ydi o'n gallu cerdded ymhlith pobl eraill.
"Peidiwch â'i ryddhau.
"Fe fydd yn gwneud newid i rywun arall. Mae o ynddo fo. Dwi wir yn credu petai'n cael ei ryddhau y bydd yn anafu rhywun arall."
Roedd Mrs Fergus yn siarad gyda'r BBC i nodi'r 20 mlynedd, diwrnod sy'n parhau i fod yn fyw iawn yn ei chof.
"Roedd yn gamgymeriad bach gwirion i adael fynd o'i law," meddai.
"Dwi'n dal ddim yn gwybod sut na pham ddigwyddodd hyn."
Dywedodd ei bod yn dal "i chwilio am gyfiawnder" a'i bod wedi "cael ei siomi gan y system" dro ar ôl tro.
"Ond dwi'n dal yn brwydro.
"Fe wnes i rybuddio'r awdurdodau y gallai un neu'r ddau ohonyn nhw aildroseddu, roeddwn i'n iawn yn achos Venables."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2003