Dal i chwilio am gefnogwr rygbi wythnos ers iddo ddiflannu yng Nghaerdydd
- Published
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn dweud bod y chwilio am gefnogwr rygbi 34 oed o Sir Benfro yn parhau.
Cafodd Ben Thompson o Hwlffordd ei weld yn crwydro strydoedd Caerdydd wedi gêm Cymru yn erbyn Iwerddon ar Chwefror 2.
Roedd yn Stadiwm y Mileniwm ar gyfer y gêm ac fe gafodd ei weld gan ffrindiau am y tro olaf yn Lôn y Felin tua 6.30pm.
Mae lluniau teledu cylch cyfyng yn ei ddangos yn croesi Heol Lecwydd i gyfeiriad Lawrenny Avenue am 7.17pm.
Mae lluniau yn ei ddangos funudau wedyn yn cerdded i lawr diwedd y ffordd tuag at dir diffaith.
Dros y penwythnos roedd timau'n chwilio'r ardal, yn benodol y goedwig, Afon Elái a chyffiniau'r A4232.
Cefnogaeth
Mae'r chwilio yn parhau ddydd Llun.
Does dim mwy o alwadau wedi bod ar ei ffôn symudol.
Dywedodd y Prif Arolygydd Eddie Ough: "Mae'r chwilio yn parhau ac rydym mewn cysylltiad cyson gyda theulu Ben sy'n naturiol yn bryderus.
"Mae swyddog arbenigol yr heddlu gyda nhw."
Mae Mr Thompson yn 5 troedfedd 9 modfedd o daldra gyda gwallt byr brown a llygaid glas.
Roedd yn gwisgo esgidiau mawr brown, jîns glas a chrys gwyn gyda streipen las tenau.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth, fe ddylai gysylltu gyda'r heddlu yng Ngorsaf Bae Caerdydd ar 02920 338 465.
Straeon perthnasol
- Published
- 5 Chwefror 2013
- Published
- 4 Chwefror 2013