BBC Cymru Fyw

Mewn Llun: Dyddiau cynnar darlledu yng Nghymru

Published
image captionMostyn Thomas yn canu Dafydd y Garreg Wen ar Chwefror 13 1923, ar 5WA, gorsaf Caerdydd y BBC, uwchben siop yn 19 Stryd y Castell, Caerdydd. Dyma oedd y darllediad radio Cymraeg cyntaf
image captionUn o'r meicroffonau cyntaf a ddefnyddiwyd gan y BBC ym Mangor yn y 1930au, sef meicroffôn Marconi-Reisz
image captionYstafell reoli stiwdio radio rhif 1 yn stiwdios Abertawe, 1952
image captionHywel Gwynfryn a'r rheolwr stiwdio Wyndham Richards yn chwarae recordiau, nôl yn y 1960au
image captionRichard Rees, un o leisiau cynnar yr orsaf sy'n dal i'w glywed yn wythnosol ar foreau Sadwrn ar Radio Cymru
image captionPerfformwyr yn cynnwys Dillwyn Owen, Mari Griffith a Ryan Davies yn stiwdio ddrama newydd y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf, o'r 1960au cynnar
image captionStiwdio radio 3, sef y stiwdio ddrama yn y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf. Roedd y rheolau ychydig yn wahanol yn y 1960au cynnar oedd yn amlwg yn caniatau ysmygu!
image captionY Stiwdio Gyswllt ar gyfer y Welsh Home Service yn 1967. Byddai cyhoeddwr (Ronnie Williams sydd yn y llun) yn cyflwyno'r rhaglenni ac yn darllen y newyddion, a'r llall yn chwarae tapiau'r rhaglenni drws nesa'
image captionY Diliau yn ymarfer ar gyfer rhaglen Disc a Dawn yn stiwdio Broadway yn Y Rhath, Caerdydd, yn 1973
image captionUn o'r camerau lliw cyntaf i gael ei ddefnyddio gan y BBC yng Nghymru yn ffilmio yn Eisteddfod Llangollen, Gorffennaf 1974
image captionHywel Gwynfryn yn cael hoe o ddarlledu i'r genedl o Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd, 1978
image captionCar â chamera ar y to, neu CRE (colour roving eye), yn ffilmio rasio ceffylau ar gae rasio Cas-gwent yn 1982