Staffio mamolaeth yn bryder i ACau
- Cyhoeddwyd
Fe all unedau mamolaeth yng Nghymru fod yn gweithredu gyda llai na'r nifer o staff sy'n cael ei gymeradwyo, yn ôl adroddiad gan Aelodau Cynulliad.
Dywedodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad fod gwasanaethau'r gwasanaeth iechyd "yn wynebu sialensiau sylweddol" wrth ymateb i'r galw, ac nad oedd modd iddyn nhw fod yn sicr fod y data o ran staff yn dweud y stori gyfan.
Mae'r ACau hefyd yn cwyno am "ddiffyg brys" gan weinidogion wrth daclo lefelau staffio ar gyfer gwasanaethau mamolaeth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod rhagor o fydwragedd yn cael eu hyfforddi.
Galwodd y pwyllgor am ddata "clir a chadarn" gan ychwanegu eu bod yn bryderus nad oedd y llywodraeth yn cael y wybodaeth gywir am niferoedd staff sydd wedi eu hyfforddi'n briodol.
Doedd gweinidogion ddim yn gallu cadarnhau a oedd y ffigyrau gan y byrddau iechyd lleol yn cynnwys absenoldebau hir dymor neu waharddiadau.
O ganlyniad doedd dim modd iddyn nhw fod yn hyderus fod y byrddau yn cydymffurfio â chanllawiau hanfodol o ran nifer y staff angenrheidiol.
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wrth yr ACau nad oedd pob bwrdd iechyd yn ateb y gofynion ar gyfer staff meddygol a nyrsio.
'Profiadau cadarnhaol'
Ym mis Ionawr 2012 roedd 'na ddiffyg bychan o ran nifer bydwragedd mewn pedwar bwrdd iechyd ac ym mis Mai 2012 fe wnaeth arolwg gan y llywodraeth ganfod bod dau, Betsi Cadwaladr a Hywel Dda "ddim yn cydymffurfio'n llawn".
"Er ein bod yn cydnabod fod 'na gynnydd bychan wedi bod ar y mater, rydym yn bryderus nad ydi pob bwrdd iechyd yn cyrraedd y lefel staffio sy'n cael ei argymell," meddai'r adroddiad.
Dywedodd Darren Millar, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, fod y pwyllgor wedi canfod bod gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru, ar y cyfan, yn "cynnig profiadau cadarnhaol i'r rhan fwyaf o gleifion a bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau tuag at weithredu argymhellion yr adroddiad a gyhoeddwyd yn 2010".
"Fodd bynnag, roeddem yn teimlo bod diffyg brys o ran cynnydd Llywodraeth Cymru ar adeg pan fo adnoddau o dan bwysau a phan fo newidiadau radical yn digwydd i'r modd y darperir gwasanaethau gan Fyrddau Iechyd Lleol - roedd hwn yn fater o bryder sylweddol i ni.
"Hwn yw'r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau a baratowyd gan y Pwyllgor hwn, ei ragflaenydd a Swyddfa Archwilio Cymru.
"Mae pob un o'r adroddiadau wedi codi pwyntiau tebyg ynghylch y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a pha mor gynaliadwy ydyn nhw mewn hinsawdd o brinder staff ac adnoddau sydd o dan bwysau.
"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod y pryderon hyn a mynd i'r afael â hwy fel mater o frys."
Hyfforddi
Clywodd Aelodau'r Pwyllgor hefyd am y raddfa uchel o enedigaethau Cesaraidd yn ysbytai Cymru. Defnyddir y driniaeth yn ystod chwarter y genedigaethau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod nifer y lleoedd sydd ar gael i hyfforddi bydwragedd wedi cynyddu eleni o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
"Mae penderfyniadau am leoedd hyfforddi yn seiliedig ar anghenion y gwasanaeth iechyd i gynnal gwasanaethau, datblygu gwasanaethau, nifer ac oed y staff presennol a nifer y rhai sy'n gadael y cyrsiau.
"Mae cynlluniau hefyd yn cymryd i ystyriaeth nifer y myfyrwyr bydwreigiaeth sy'n hyfforddi ar hyn o bryd a'r rhai sydd ar fin graddio."
Dywedodd hefyd mai sefydliadau'r gwasanaeth iechyd sy'n gyfrifol am sicrhau fod ganddyn nhw'r nifer addas o staff i ateb gofynion a bod y gweithlu wedi cynyddu 12% ers 1999.
Straeon perthnasol
- 20 Medi 2011
- 5 Mawrth 2012