Annog cynghorau i weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae 'na ymgyrch ar y gweill i geisio perswadio awdurdodau lleol a chyrff eraill i fabwysiadau polisi o weinyddu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Yn ôl Cynghrair Cymunedau Cymraeg, maen nhw'n troi eu sylw cynta' at yr etholiadau lleol ar Ynys Môn, fydd yn cael eu cynnal fis Mai.
Mae'r gynghrair yn galw ar bob un o'r ymgeiswyr yn yr etholiad hwnnw i ymrwymo i sicrhau fod yr ynys yn cael ei gweinyddu trwy'r Gymraeg.
Dywed y mudiad fod yn "rhaid i'r Gymraeg i fod yn iaith weinyddol yn ein cynghorau sir".
Maen nhw hefyd yn galw ar bobl i annog eu ffrindiau sy'n deall Cymraeg i siarad yr iaith.
Ynys Môn
Dywedodd Aled G. Job, aelod o Gynghrair Cymunedau Cymraeg: "Gellir troi pobl a nododd yn y Cyfrifiad eu bod yn 'deall' y Gymraeg - ond yn methu ei siarad na'i hysgrifennu - i fod yn siaradwyr er mwyn gwyrdroi'r dirywiad a fu ers 2001.
"Er enghraifft, ym Môn, mae 56.95% yn siarad Cymraeg ond mae 69.55% yn ei deall, sy'n golygu bod modd troi 13% o'r boblogaeth sy'n deall y Gymraeg i fod yn siaradwyr, sy'n cyfateb i tua 7,000 o bobl.
"Pe bai Cyngor Môn yn penderfynu ar ôl yr etholiadau lleol ym mis Mai i newid iaith fewnol y Cyngor, byddai hyn yn gymorth pellach i annog a helpu pobl i ddod yn siaradwyr rhugl."
Datgelwyd yn y Cyfrifiad diweddara' fod 19% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg yng Nghymru yn 2011, o'i gymharu â 21% yn 2001.
Dywedodd Craig ab Iago, Cadeirydd Cynghrair Cymunedau Cymraeg: "Yn ogystal â bod pobl yn gwneud pethau ymarferol er lles y Gymraeg a'r gymuned yn lleol, rhaid hefyd mynnu newid o ran strategaeth yn ein hawdurdodau lleol.
"Dyma pam mae Cynghrair Cymunedau Cymraeg yn dechrau ymgyrch i geisio cael mwy o awdurdodau lleol a chyrff i weinyddu drwy'r Gymraeg."
Amrywiaeth
Mewn ymateb i'r ymgyrch, dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros y Gymraeg, bod y Gymraeg yn bwysig iawn i ddiwylliant Cymru.
"Mae'r dyletswyddau statudol sydd ym Mesur y Gymraeg 2011 yn cynnig gwir gyfle i hybu a hwyluso'r defnydd ohoni'n iaith fyw yn y gwaith.
"Bydd nifer y rhai sy'n medru'r Gymraeg ac yn ei dysgu yn amrywio o'r naill ardal i'r llall ac, felly, dylai'r ymdrech i gynyddu'r defnydd a'r ddarpariaeth yn y gwaith fod yn un ymarferol sy'n parchu ac yn adlewyrchu'r gweithlu lleol.
"Yn ôl canfyddiadau'r Cyfrifiad diwethaf, mae tystiolaeth bod y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd yn un o'r ffactorau allweddol ynglŷn â'i thynged.
"A ninnau'n gyflogwyr, mae'n amlwg bod rôl i awdurdodau lleol Cymru a'n partneriaid yn y sector cyhoeddus yn hyn o beth."